Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 8 Chwefror 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:15 - 10:30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jean-Pierre Girard, arbennigwr ar ddatblygiad a rheolaeth sefydliadau cydweithredol, di-elw a cilyddol (enwebwyd gan Gydweithredwyr Cynyddol Cymru) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Dafydd (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams. Nid oedd dirprwyon.
2. Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Trafod y prif faterion
2.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y prif faterion yn ei ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.
3. Blaenraglen waith - Trafodaeth bellach ynghylch sesiynau tystiolaeth un-tro
3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith. Yn dilyn ei seminar anffurfiol ar fynediad at feddyginiaethau, cytunodd y Pwyllgor y byddai’n cynnal ymchwiliad byr i fynediad at driniaethau yng Nghymru.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor na fyddai’n trefnu pedwerydd sesiwn dystiolaeth un-tro, a hynny er mwyn caniatáu digon o hyblygrwydd yn y flaenraglen waith fel y gall y Pwyllgor ymateb i faterion a allai godi.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried ei flaenraglen waith eto cyn toriad y Pasg.
4. Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - trafodaeth â Jean-Pierre Girard mewn perthynas â thystiolaeth ysgrifenedig a gomisiynwyd gan Gydweithredwyr Cynyddol Cymru
4.1Ymatebodd Jean-Pierre Girard i gwestiynau gan y Pwyllgor ar fodel cydweithredol gofal yn y cartref i bobl hŷn yn Québec.
5. Papurau i'w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr.
Trawsgrifiad